Cymraeg

Welsh

Mae Cymraeg yn iaith Geltaidd nad yw’n debyg i’r Saesneg gan wneud dealltwriaeth rhwng y ddwy iaith yn gyfyngedig i rai geiriau benthyg neu siaradwyr Cymraeg yn newid i’r Saesneg (codeswitching).

Mae Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 yn awgrymu bod 874,600 o drigolion Cymru (29 y cant o gyfanswm y boblogaeth) tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r canlyniadau ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol diweddaraf ar gyfer Cymru (2017-2018) yn awgrymu bod 19 y cant o'r boblogaeth oedolion 16 oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg, gyda 12 y cant yn ychwanegol yn y grŵp oedran hwn yn nodi bod ganddyn nhw "beth gallu siarad Cymraeg” Mae'r ddau arolwg yn rhoi cyfrannau uwch o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru na data’r Cyfrifiad lle nodwyd bod 19% o'r boblogaeth dair oed neu'n hŷn yn medru’r Gymraeg yn 2011.
Mae'r cymunedau sy'n parhau i fod â chanrannau uwch o siaradwyr Cymraeg i'w gweld yng ngogledd a gorllewin Cymru. Fodd bynnag, o ran nifer y siaradwyr, mae'r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn byw mewn ardaloedd trefol dwys eu poblogaeth yn ne a dwyrain y wlad. Mae'n bwysig cofio, felly, bod y Gymraeg yn iaith fyw bob dydd i bobl ym mhob rhanbarth ac ardal yng Nghymru. Yn ogystal, mae yna siaradwyr Cymraeg ledled y byd sy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau torfol a gwasanaethau ar-lein. Amcangyfrifir bod dros 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr yn unig. Mae yna hefyd gymuned sefydledig o tua 50,000 o bobl sydd â threftadaeth Gymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin gyda hyd at oddeutu 5,000 yn siaradwyr Cymraeg.

Ers datganoli ym 1998 a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, bu consensws trawsbleidiol ar bwysigrwydd hyrwyddo'r Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru a sicrhau ei ffyniant yn y dyfodol. Heddiw, mae gan y Gymraeg gefnogaeth gref mewn deddfwriaeth. Adeiladodd Mesur 2011 ar sylfeini Deddf Iaith Gymraeg 1993 ac mae bellach yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru. Ers 2011, mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi'i sefydlu ac mae Safonau’r Gymraeg wedi disodli Cynlluniau Iaith Gymraeg (a weinyddwyd yn flaenorol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg). Sefydlwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan osod fframwaith ar y cyd ar gyfer polisi cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r ddeddf honno'n hyrwyddo gweledigaeth o Gymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Yn gynyddol, mae deddfwriaeth Cymru yn talu sylw i gyd-destun dwyieithog statudol Cymru.

Yn dilyn sefydlu yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf ym 1947, mae'r sector addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu'n gyflym ledled Cymru, wedi'i arwain yn bennaf gan alw rhieni a rhai llunwyr polisi addysg. Mae dros 500 o Gylchoedd Meithrin yn darparu addysg cyn-ysgol a gofal plant trwy Gymraeg i dros 13,000 o blant ledled Cymru. Yn ôl ystadegau'r Llywodraeth, mae 16% o ddisgyblion cynradd ac uwchradd Cymru yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, gyda 10% arall yn mynychu ysgolion dwyieithog, dwy ffrwd, neu Saesneg gydag darpariaeth Gymraeg sylweddol. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gynyddu canran pob grŵp blwyddyn sy'n derbyn addysg gyfrwng Cymru i 30% erbyn 2031 a 41% erbyn 2050 fel rhan o'i nod i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.