Irish
Gwyddeleg
Gwyddeleg yw un o'r ieithoedd ysgrifenedig hynaf a mwyaf hanesyddol yn y byd. Mae'r dystiolaeth gynharaf ohoni i'w gweld ar gerrig Ogam o'r 5ed ganrif. Erbyn gellir dod o hyd i Wyddeleg mewn mwy na 4,500 o lyfrau, ar y teledu, ar y radio, yn y papurau newydd, cylchgronau ac ar y rhyngrwyd. Ni allwn fod yn sicr pryd y daeth y Wyddeleg i Iwerddon gyntaf, ond mae llawer o ysgolheigion yn credu ei bod yma dros 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Roedd ieithoedd eraill yn cael eu siarad yma cyn y Wyddeleg ond, erbyn 500AD, roedd Gwyddeleg yn cael ei siarad ledled Iwerddon ac yn ymledu trwy'r Alban, arfordir gorllewinol Prydain ac Ynys Manaw.
Yn y flwyddyn 1893, sefydlodd Dubhghlas de hÍde, Eoin Mac Néill, y Tad Eoghan Ó Gramhnaigh ac eraill Conradh na Gaeilge, neu'r Gynghrair Aeleg. Ymhen dwy flynedd roeddent wedi llwyddo i greu mudiad torfol i gefnogi’r Wyddeleg. Gweithiwyd i ddod â gramadeg yr iaith ysgrifenedig i fod yn unol â'r iaith fodern lafar. Canlyniad yr ymdrechion hyn oedd y Safon Swyddogol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Iwerddon ym 1958.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 1.76 miliwn o bobl yng Ngweriniaeth yr Iwerddon yn medru siarad Gwyddeleg. Y Wyddeleg yw iaith y gymuned yn y rhanbarthau Gaeltacht ac mae'r iaith hefyd yn ennill tir mewn ardaloedd y tu hwnt i'r Gaeltacht.
Mae ardaloedd y Gaeltacht yn y saith sir Corc, Donegal, Galway, Kerry, Meath, Mayo a Waterford. Nododd cyfanswm o 63,664 o bobl (3 oed neu drosodd) neu 66.3 y cant o bobl yn ardaloedd y Gaeltacht eu bod yn medru siarad Gwyddeleg yn 2016.
Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011, mae gan 11% (184,898) o'r boblogaeth wybodaeth o Wyddeleg, 1% yn uwch na Chyfrifiad 2001. Mae 11% yn gallu deall yr iaith, 6% yn gallu siarad Gwyddeleg a 5% yn gallu darllen ac ysgrifennu Gwyddeleg.
Yn Ne Iwerddon, ar hyn o bryd mae cannoedd o ysgolion cyfrwng Gwyddelig, rhwng yr ysgolion meithrin, ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd. Yn ôl Gaeloideachas, mae 160 o feithrinfeydd Gwyddelig yn darparu ar gyfer 4,980 o blant, y tu hwnt i'r Gaeltacht, mae 286 o ysgolion cynradd yn darparu ar gyfer 49,822 o ddisgyblion a 78 o ysgolion ôl-gynradd sy'n darparu ar gyfer 15,784 o fyfyrwyr.
Yn y Gogledd, ar hyn o bryd, mae cyfanswm o 92 o ysgolion yn darparu addysg cyfrwng Gwyddelig ar gyfer dros 6000 o ddisgyblion oed meithrin, cynradd ac ôl-gynradd.
Noda Erthygl 8, Cyfansoddiad yr Iwerddon:
The Irish language as the national language is the first official language. The English language is recognised as a second official language. Provision may, however, be made by law for the exclusive use of either of the said languages for any one or more official purposes, either throughout the State or in any part thereof.
Cadarnhaodd Deddf Ieithoedd Swyddogol 2003 hyn mewn deddfwriaeth yn y De. Sefydlwyd Swyddfa'r Comisinéir Teanga (Y Comisiynydd Iaith) o dan y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol fel swyddfa statudol, annibynnol sy'n gweithredu fel gwasanaeth ombwdsmon ac fel asiantaeth gydymffurfio.
Yn y Gogledd, addawyd 'cydraddoldeb parch' i'r Wyddeleg o dan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith 1998, ac er iddi gael ei chydnabod ymhellach o dan Siarter Ewropeaidd Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol, fel a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DG ar gyfer Gwyddeleg yn 2001, roedd yr iaith ar yr ymylon i raddau helaeth yn nhermau cyhoeddus a chyfreithiol. Ym mis Ionawr 2020, yn dilyn ymgyrch hir dan arweiniad y gymuned (a adnabuwyd fel An Dream Dearg), sicrhaodd y Cytundeb 'Degawd Newydd, Dull Newydd' statws cyfreithiol pellach ar gyfer yr iaith yn y Gogledd, a sefydlwyd Comisiynydd Gwyddeleg newydd ar gyfer y rhanbarth. Mae’r ymdrechion yn parhau i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon a'i sicrhau yn unol â statws iaith swyddogol gyfreithiol Cymraeg a Gwyddeleg (yn y Weriniaeth).
