Frysk

Frisian


Mae Ffriseg Orllewinol, neu yn syml Ffriseg neu Frysk, yn iaith Germaneg Orllewinol a siaredir yn bennaf yn nhalaith Friesland (Fryslân) yng ngogledd yr Iseldiroedd. O’r holl ieithoedd Ffriseg, dyma’r un a siaredir fwyaf.

Mae gan Fryslân 650,000 o drigolion ac mae 94% ohonynt yn deall Ffriseg Orllewinol llafar. Gall 74% ei siarad a gall 75% ei darllen. 27% sy’n medru ei hysgrifennu.

I dros hanner trigolion talaith Fryslân, Ffriseg Orllewinol yw'r iaith frodorol. Yn y canolbarth dwyreiniol, mae siaradwyr Ffriseg Orllewinol yn croesi dros ffin y dalaith, gyda thua 4,000–6,000 ohonynt yn byw yn nhalaith Groningen. Hefyd, mae llawer o Ffrisiaid Gorllewinol wedi gadael eu talaith yn y 60 mlynedd diwethaf i ymgartrefu mewn ardaloedd mwy llewyrchus yn yr Iseldiroedd. Felly, mae’n bosib fod cymaint â 150,000 o siaradwyr Ffriseg Orllewinol yn byw mewn taleithiau eraill yn yr Iseldiroedd. Ar wahân i’r rheiny sy’n siarad yr iaith fel iaith gyntaf, mae hefyd yn cael ei siarad fel ail iaith gan tua 120,000 o bobl yn nhalaith Fryslân.

Mae Ffriseg Orllewinol yn cael ei ystyried gan UNESCO fel iaith sydd mewn perygl o ddiflannu, ac wedi ei rhestru'n swyddogol fel iaith "Bregus". Mae’n iaith sydd wedi'i safoni ac mae'r safon honno'n cael ei derbyn yn eang gan y gymdeithas Ffriseg. Caiff ei chydnabod yn swyddogol gan Lywodraeth yr Iseldiroedd ac mae ganddi statws swyddogol yn nhalaith Fryslân er 1956. Yn 2014, pasiodd Llywodraeth yr Iseldiroedd Ddeddf Iaith Ffriseg sy'n gwarantu hawl pawb yn Nhalaith Fryslân i ddefnyddio eu hiaith eu hunain yn y llys a gyda chyrff gweinyddol. Mae’r ddeddf hefyd yn nodi bod yr Iseldireg a’r Ffriseg yn ieithoedd swyddogol yn nhalaith Fryslân.

Gwnaed addysg gynradd yn Fryslân yn ddwyieithog ym 1956, sy'n golygu y gellir defnyddio Ffriseg Orllewinol fel cyfrwng addysgu. Yn yr un flwyddyn, daeth Ffriseg Orllewinol yn bwnc ysgol swyddogol, wedi iddo gael ei gyflwyno i addysg gynradd fel opsiwn ddewisol ychwanegol ym 1937. Fodd bynnag, ni chafodd statws pwnc craidd mewn ysgolion cynradd tan 1980 ac ni gyflwynwyd fel pwnc craidd mewn ysgolion uwchradd tan 1993.

O fewn y Safonau Rhyngwladol ar gyfer codau ieithoedd (ISO 639) mae Ffriseg Orllewinol yn cael ei gynnwys yn y codau fy a fry a ddynodir i’r casgliad o ieithoedd Ffriseg.