Y Prosiect yn gryno

Cip ar y prosiect

The Project in Brief

Mae gan ieithoedd cyd-swyddogol, ieithoedd sydd mewn perygl, ieithoedd cynhenid, a ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol (IRhLl) un peth yn gyffredin: mae eu siaradwyr yn tueddu i newid i'r iaith fwyafrifol mewn cyd-destunau a sefyllfaoedd penodol. Maen nhw'n gwneud hynny pan mae siaradwr y brif iaith o gwmpas, neu pan maen nhw'n mynd at berson diarth, neu pan maen nhw'n mynd i'r siopau neu i weithio. Lle na chefnogir yr iaith leiafrifol yn swyddogol gall y newid o un iaith i’r llall fod yn gyflymach ac yn amlach.



Pam fod pobl yn newid i'r iaith ddominyddol neu fwyafrifol mor gyflym mewn rhai sefyllfaoedd?


Mae gan seicolegwyr enw am yr ymddygiad hwn: ymostyngiad. Mae ymostyngeiddrwydd yn golygu bod rhywun yn atal ei hun (yn ddigymell) rhag ymddwyn mewn rhyw ffordd o ganlyniad i arfer, neu ofn cael ei gosbi. Mae ymostyngiad ieithyddol yn digwydd pan fydd rhywun yn stopio siarad ei iaith ei hun ac yn newid i'r iaith arall, hyd yn oed pan nad oes unrhyw un wedi gofyn iddo i wneud hynny.


Os yw siaradwr Cymraeg yn mynd i mewn i siop leol mewn ardal Gymraeg lle maen nhw'n gwybod bod y staff yn siarad Cymraeg ond mae nhw'n dechrau siarad Saesneg, yna mae'r person hwnnw'n bod yn ieithyddol ymostyngol. Os yw dau siaradwr Gwyddeleg yn cael sgwrs ac yna mae dieithryn yn mynd atynt ac maent yn newid i'r Saesneg cyn cael gwybod unrhyw beth am allu ieithyddol yr unigolyn, yna maent yn ymostyngol yn ieithyddol.
Mae yna sawl math o ymostyngiad ieithyddol. Gall pob un ohonynt achosi pryder i’r siaradwr ac maent yn aml yn cymell ymdeimlad o fethiant a diymadferthedd. Y newyddion da yw ei fod yn ymddygiad, ac o'r herwydd, gellir ei newid.

Mae'r prosiect LISTEN yn datblygu methodoleg i hyfforddi siaradwyr IRhLl i addasu eu hymddygiad, lleihau pryder, a dod yn siaradwyr hyderus yn yr iaith leiafrifol. Gydag amser, ymarfer ac ewyllys da, gall unrhyw un newid ei agwedd a chynyddu amlder defnydd cymdeithasol o'r iaith.

Ieithoedd y Prosiect

Cym

 
 
 

Fry

 
 
 
 

Gle

 
 
 

Hun

 
 
 
Cydnabyddiaeth

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan gynllun Erasmus+ o dan gytundeb grant Rhif. 2019-1-ES01-KA204-064957