Hungarian

Hwngareg


Mae 1.25 miliwn o siaradwyr Hwngareg brodorol yn Rwmania, gan gynrychioli 6.3% o'r boblogaeth. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw yn Nhransylvania, lle mae dau ranbarth lle maent yn cynrychioli mwyafrif y boblogaeth: Székely Land, rhanbarth traddodiadol yng nghanol Rwmania, sy'n cynnwys Hargita (Harghita), Kovászna (Covasna) a rhannau o Sir Maros (Mureș) a Partium, yn rhanbarth ffiniol y Gogledd-orllewin yn Siroedd Bihar (Bihor) a Szatmár (Satu Mare).

Mae'r mwyafrif o siaradwyr Hwngareg brodorol (mwy na 97%) hefyd yn nodi eu hunain yn Hwngaraidd o ran ethnigrwydd, sy'n golygu bod iaith yn elfen bwysig sy’n gwahaniaethu rhwng y mwyafrif Romanaidd a’r lleiafrif Hwngaraidd. Mae sgiliau iaith Hwngareg y rhai nad ydynt yn Hwngaraidd yn isel, dim ond cyfran fach (tua 1.5%) o'r boblogaeth nad yw'n Hwngaraidd yn Rwmania sy'n siarad neu'n deall yr iaith.

Yn ôl ysgolheigion, 1) mae tua 25% o Hwngariaid yn uniaith Hwngareg, ac yn defnyddio’r iaith Hwngareg bron ym mhob pau cymdeithasol, 2) mae 40-45% yn ddwyieithog heb eu cymhathu, gan ddefnyddio Hwngareg yn eu peuoedd personol, ond mewn peuoedd swyddogol maent yn defnyddio Rwmaneg i ryw raddau , 3) mae tua 20% yn ddwyieithog wedi’u cymhathu, maent yn defnyddio'r ddwy iaith yn eu peuoedd preifat ac yn defnyddio Rwmaneg bron yn gyfan gwbl yn y pau swyddogol a 4) mae tua 10% wedi'u cymhathu'n llawn, gan ddefnyddio Rwmaneg yn rheolaidd neu'n gyfan gwbl ym mhob rhan o’u bywyd. Yn eu hachos nhw, mae’r shifft ieithyddol yn ymddangos yn anorfod.

Mae modd i blant Hwngaraidd ddysgu yn eu mamiaith ar bob lefel o addysg gyhoeddus, o'r feithrinfa i addysg uwch, gyda'r mwyafrif ohonynt yn dewis astudio mewn ysgolion uniaith Hwngaraidd. Y tu hwnt i ddysgu mewn Hwngaraidd, mae holl bobl ifanc Hwngaraidd yn dysgu iaith y wladwriaeth am bedair awr yr wythnos o ysgolion meithrin hyd at ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd.

Mae tua 200 o fwrdeistrefi lle mae Hwngariaid yn byw yn y mwyafrif. Yn yr ardaloedd hyn, defnyddir yr iaith Hwngareg ym mhob rhan o fywyd bob dydd. Er gwaethaf y ffaith hon, nid yw Hwngareg yn cael ei chydnabod fel iaith swyddogol yn Rwmania. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, gall siaradwyr Hwngareg ddefnyddio eu hiaith mewn perthynas ag awdurdodau lleol a sefydliadau cyhoeddus, os yw eu canran siaradwyr yn uwch na 20% yn yr uned weinyddol.